Nesâu mae'r hyfryd ddydd Cawn seinio'r newydd gân, Ar ol caethiwed maith Am waredigaeth lân, Yn mysg y llu sydd fel y wawr, Yn mhell o wlad y cystudd mawr. Gerbron yr orsedd lân Ymgrymwn oll i lawr, Gan foli'r Oen ar gân Am waith ei gariad mawr: Cydganwn glod â'r dyrfa gu Ar beraidd dôn sy 'n moli fry.Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868
Tonau [666688]: gwelir: Caersalem dinas hedd Dysgleiried bore wawr |
Approaching is the delightful day When we may sound a new song, After long captivity, About complete deliverance, Amongst the host who are like the dawn, Far from the land of the great tribulation. Before the holy throne Let us all bow down, Praising the Lamb in song About the work of his great love: Let us chorus acclaim with the dear throng, In a sweet tune, who are praising above.tr. 2022 Richard B Gillion |
|